Math | county of Northern Ireland, sir hanesyddol y Deyrnas Unedig |
---|---|
Enwyd ar ôl | Antrim |
Prifddinas | Antrim |
Poblogaeth | 618,108 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Gogledd Iwerddon |
Sir | Gogledd Iwerddon |
Gwlad | Gogledd Iwerddon |
Arwynebedd | 2,844 km² |
Gerllaw | Lough Neagh, Cefnfor yr Iwerydd, Sianel y Gogledd |
Yn ffinio gyda | Swydd Down, Swydd Deri, Swydd Tyrone, Swydd Armagh |
Cyfesurynnau | 54.865°N 6.28°W |
Un o'r chwe sir sy'n ffurfio Gogledd Iwerddon yw Swydd Antrim (Gwyddeleg: Contae Aontroma, Saesneg: County Antrim). Mae'n rhan o dalaith Wlster. Yn y gogledd a'r dwyrain mae culfor yn ei gwahanu oddi wrth yr Alban, ac yn hanesyddol roedd cysylltiad agos rhwng yr ardal yma a gorllewin yr Alban; roedd y ddwy ochr i'r culfor yn rhan o deyrnas Dál Riata. Antrim yw'r dref sirol.
Gyda phoblogaeth o tua 566,000, Antim yw'r ail o ran poblogaeth o 32 sir ynys Iwerddon. Yn Swydd Antrim y mae'r rhan fwyaf o ddinas Belffast, gyda'r gweddill ohoni yn Swydd Down. Mae'r Giant's Causeway yn Safle Treftadaeth y Byd, tra mae Bushmills yn enwog am gynhyrchu chwisgi. Ceir gwasanaeth fferi o borthladd Larne i Cairnryan a Troon yn yr Alban a Fleetwood yn Lloger.