Symptom

Arwydd o afiechyd ydy symptom. Daw'r gair o'r iaith Roeg σύμπτωμα sef "damwain ac aflwydd ar berson".[1] Gall y symptom ymwneud ag unrhyw beth gwahanol i'r arfer: arwydd gweledol neu deimlad gwahanol i'r arfer, gan y claf, sy'n arwydd o afiechyd neu haint. Er enghraifft, un o'r symptomau cynharaf o lid y freithell (meningitis) ydy cur pen.

Tystiolaeth oddrychol o glefyd fel y canfyddir gan glaf yw symptom, ac felly mae'n wahanol i arwydd meddygol sef tystiolaeth wrthrychol a ddarganfyddir gan feddyg.[2]

  1. Sumptoma, Henry George Liddell, Robert Scott, A Greek-English Lexicon, at Persues
  2. (Saesneg) Rhestr termau meddygol: S. Adran Batholeg Prifysgol Dwyrain Ontario.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy