System resbiradu

System resbiradu
Defnyddir system cymhleth iawn i anadlu, i siarad - ac i chwythu swigod sebon!
Enghraifft o'r canlynolmath o system anatomegol, dosbarth o endidau anatomegol Edit this on Wikidata
Mathsystem o organnau, endid anatomegol arbennig Edit this on Wikidata
Rhan osystem gylchredol Edit this on Wikidata
Yn cynnwysceudod y trwyn, ffaryncs, laryncs, tracea, broncws, ysgyfaint, respiratory tract Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r system resbiradu mewn organebau yn caniatáu cyfnewid nwyon o fewn y corff a thu allan i'r corff. Mae'n cynnwys yr organau a ddefnyddir i anadlu, y ffaryncs (neu'r argeg), y tracea (neu'r bibell wynt), y bronci, yr ysgyfaint a'r llengig (neu'r diaffram thorasig). Pwrpas y system hon yw sicrhau fod y corff yn derbyn moleciwlau o ocsigen ac yn rhyddhau carbon deuocsid yn ôl i'r atmosffer. Mewn meddygaeth, mae'r astudiaeth o'r system resbiradu o fewn yr adran a elwir yn anatomeg, sydd yn ei dro'n rhan o fywydeg.

Mae gan anifeiliaid eraill megis pryfed, adar a mamaliaid sytemau resbiradu: defnyddia amffibiaid eu crwyn i gyfnewid y nwyon ocsigen a charbon deuocsid a thagell sydd gan bysgod. Dim ond drwy'r trwyn y gall ceffyl anadlu; bwyta yn unig yw pwrpas ei geg. Mae amffibiaid yn defnyddio ysgyfaint a'u crwyn i anadlu. Does gan ymlusgiaid ddim llengig, felly mae eu system resbiradu'n tipyn symlach na mamaliaid. Sbiraglau (neu dyllau bychan) sydd gan bryfed, a'r rheiny wedi'u lleoli ar eu sgerbwd allanol - mae hyn yn debyg i system y pysgod o ddefnyddio tegyll i anadlu. Mae ambell bryfyn, fel y Collembola yn defnyddio system o anadlu drwy'r croen yn unig ac nid oes ganddo sbiraglau na thracea.[1]

Mae gan blanhigion hwythau systemau resbiradu er fod y cyfnewid nwyon yn gwbwl groes i gyfeiriad y nwyon mewn anifeiliaid: carbon deocsid i mewn ac ocsigen allan; mae'n cynnwys nodweddion anatomegol unigryw megis y tyllau a geir ar wyneb isaf deilen, sef y stomata.

Diagram syml o system anadlu y corff dynol
Diagram cymhlethach o sytem respiradu y corff dynol
  1. The Earth Life Web, Insect Morphology and Anatomy. Earthlife.net. Adalwyd 2013-04-21.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy