Enghraifft o'r canlynol | rhwydwaith teledu |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 31 Hydref 1996 |
Perchennog | Teilifís na Gaeilge |
Aelod o'r canlynol | Undeb Darlledu Ewropeaidd |
Pencadlys | Dulyn |
Gwefan | https://www.tg4.ie/ |
Mae TG4 (TG Ceathair, Teledu Gwyddelig Pedwar) yn wasanaeth deledu cyhoeddus yn yr iaith Wyddelig.
Sefydlwyd ym 1996 mae'n cyrraedd 98% o gartrefi Iwerddon yn cynnwys dros wasanaeth lloeren Sky Iwerddon. Mae'r rhaglenni hefyd ar gael ar lein trwy ei wefan.
Enw gwreiddiol y sianel oedd Teilifís na Gaeilge (Teledu y Wyddelig) neu TnaG cyn ei ail-enwi'n TG4 ym 1999. Mae'r rhaglenni dyddiol yn Wyddelig ar oriau brig gyda rhaglenni eraill yn Saesneg.
Mae llawer o raglenni iaith Wyddelig wedi'u recordio gydag is-deitlau Saesneg, ond mae'r rhaglenni byw yn dueddol o fod heb is-deitlau
Er yn wasanaeth a sefydliwyd gan lywodaeth Gweriniaeth Iwerddon mae TG4 bellach ar gael yn 6 sir Gogledd Iwerddon sydd o dan reolaeth Prydain yn dilyn Cytundeb Belffast (Good Friday Peace Agreement), 1998 rhwng Llywodraethau Prydain a Gweriniaeth Iwerddon.