Tacitus

Tacitus
Ganwydc. 54, Unknown Edit this on Wikidata
Gallia Narbonensis Edit this on Wikidata
Bu farwc. 120 Edit this on Wikidata
yr Ymerodraeth Rufeinig Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethhanesydd, gwleidydd, person milwrol, bardd, athronydd, cofiannydd, croniclwr, cyfreithegwr, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Swyddtribune of the plebs, llywodraethwr Rhufeinig, Praetor, Conswl Rhufeinig, seneddwr Rhufeinig Edit this on Wikidata
Adnabyddus amAnnals, Histories, Germania, Cofiant Agricola, llywodraethwr Prydain, Dialogus de oratoribus Edit this on Wikidata
Arddullhanes Edit this on Wikidata
PriodJulia Agricola Edit this on Wikidata
Cerflun o Tacitus yn Fienna

Hanesydd Rhufeinig a llenor yn yr iaith Ladin oedd Gaius Cornelius Tacitus neu Publius Cornelius Tacitus neu yn Gymraeg Tegid[1] (c.56 - 117 O.C.). Credir iddo gael ei eni yn nhalaith Gallia Narbonensis (de Ffrainc heddiw), ond nid oes sicrwydd am hynny. Mae'n bosibl mai asiant imperialaidd yng ngogledd-ddwyrain Gâl a oedd yn gyfrifol am dalu llengwyr Rhufeinig byddin y Rhein oedd ei dad. Cafodd Tacitus ei eni tua 55 O.C., yn ystod teyrnasiad yr ymerodr Claudius. Bu marw tua diwedd teyrnasiad Trajan (98 - 117) neu'n fuan ar ôl hynny. Chwareai rhan bur bwysig ym mywyd cyhoeddus ei oes ond fe'i cofir yn bennaf am ei gyfraniad arbennig i lên hanes.

  1. Geiriadur yr Academi, [Tacitus].

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy