Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 719, 682 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 7,552.64 ha |
Cyfesurynnau | 51.896°N 3.29°W |
Cod SYG | W04000880 |
Cod OS | SO111226 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | James Evans (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol) |
Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Tal-y-bont ar Wysg[1] (Saesneg: Talybont-on-Usk).[2] Saif ychydig i'r gorllewin o Afon Wysg, a bob ochr i Gamlas Aberhonddu a'r Fenni. Ar un adeg roedd y pentref yn ganolfan bwysig i'r diwydiant gwlân; mae'n awr yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid. Ganed y bardd ac awdur Roland Mathias yma.
Heblaw pentref Tal-y-bont ar Wysg, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Llansantffraed, lle mae'r bardd Henry Vaughan wedi ei gladdu, a Llanddeti. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 743.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[4]