Taleithiau a thiriogaethau Canada

Taleithiau a thiriogaethau Canada
Enghraifft o'r canlynolenw un tiriogaeth mewn gwlad unigol, collective entity Edit this on Wikidata
Mathendid tiriogaethol gwleidyddol, is-adran weinyddol gwlad lefel gyntaf, census geographic unit of Canada, endid tiriogaethol gweinyddol Canada Edit this on Wikidata
Yn cynnwystiriogaeth Canada, Talaith Canada Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Canada yn ffederasiwn o ddeg talaith, sydd, ynghyd â thair tiriogaeth, yn ffurfio ail wlad fwya'r byd o ran arwynebedd. Y prif wahaniaeth rhwng talaith a thiriogaeth yng Nghanada yw bod pwerau talaith yn deillio'n uniongyrchol o'r Ddeddf Cyfansoddiad, 1867, sydd yn rhoi iddynt hwythau fwy o hawliau nag sydd gan diriogaeth, sydd â phwerau wedi'u dirprwyo gan y llywodraeth ffederal.

Canada Uchaf, Canada Isaf, New Brunswick a Nova Scotia oedd pedair talaith gyntaf Canada pan luniodd gwladfeydd Gogledd America Brydeinig ffederasiwn ar 1 Gorffennaf 1867. Ail-enwyd Canada Uchaf yn Ontario a Chanada Isaf yn Quebec. Dros y chwe blynedd dilynol, ymunodd Manitoba, British Columbia ac Ynys y Tywysog Edward fel taleithiau.

Roedd Cwmni Bae Hudson (Hudson's Bay Company) yn rheoli rhannau sylweddol o orllewin Canada hyd at 1870, cyn i'r tir ddod i feddiant Llywodraeth Canada, gan ffurfio rhan o Diriogaethau'r Gogledd-orllewin. Ar 1 Medi 1905, ffurfiwyd Alberta a Saskatchewan o'r rhan o Diriogaethau'r Gogledd-orllewin a orweddai i'r de o'r paralel 60°.

Mewn refferendwm yn 1948, gyda mwyafrif bach, pleidleisiodd trigolion Newfoundland a Labrador dros ymuno â'r conffederasiwn. O ganlyniad, ar 13 Mawrth 1949, ymunodd Newfoundland a Labrador fel degfed talaith Canada.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy