Math | endid tiriogaethol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.93384°N 3.97958°W |
Pentref ger Llandeilo yn Sir Gaerfyrddin yw Taliaris.
Ail-adeiladwyd Eglwys y Drindod, Taliaris gan William Gwynne o Blas Taliaris. Capel Anwes i Landeilo Fawr oedd hi'n wreiddiol yn yr oesoedd canol.
Symudwyd Bwthyn Nantwallter o ystad Plas Taliaris i Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan yn ystod yr 1990au. Adeiladwyd y bwthyn yn wreiddiol ar gyfer gweithwyr y plas yn yr 1770au.[1]