Taliesin | |
---|---|
Ganwyd | 534, 518 Powys |
Bu farw | 599 |
Dinasyddiaeth | sub-Roman Britain |
Galwedigaeth | bardd, llenor, bardd, dewin |
Roedd Taliesin yn un o'r beirdd cynharaf yn yr iaith Gymraeg, a'r bardd Cymraeg cynharaf y ceir ei destunau ar glawr heddiw. Roedd Taliesin yn fardd llys i ddau o frenhinoedd y Brythoniaid: Cynan Garwyn o Bowys ac Urien Rheged, brenin Rheged yn yr Hen Ogledd. Bu fyw yn ail hanner y 6g ac roedd yn perthyn i'r genhedlaeth ar ôl Aneirin. Fe'i crybwyllir yn y llyfr Historia Brittonum gan Nennius ynghyd ag Aneirin, Cian, Blwchfardd a Thalhaearn Tad Awen, fel bardd a ganai yn yr Hen Ogledd. Mae cerddi'r Taliesin hanesyddol wedi goroesi yn Llyfr Taliesin, llawysgrif o ddechrau'r 13g. Maent yn perthyn i'r Hengerdd. Yn Llyfr Taliesin a llawysgrifau eraill ceir nifer o gerddi eraill yn ogystal, ar destunau amrywiol, sydd yn ddiweddarach ond a dadogir arno. Yr enw traddodiadol ar y bardd chwedlonol, cyfansoddwr tybiedig y cerddi chwedlonol amdano a'r daroganau yn ei enw, yw Taliesin Ben Beirdd, ond nid oedd Cymry'r Oesoedd Canol yn gwahaniaethu rhwng y bardd hanesyddol ac arwr y chwedlau.