Tanchwa Senghennydd

Tanchwa Senghennydd
Mathdamwaith gwaith mwyngloddio Edit this on Wikidata
Nifer a laddwyd439 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadGlofa Universal Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6114°N 3.2813°W Edit this on Wikidata
Cod OSSP806757 Edit this on Wikidata
Map
Cyfnod14 Hydref 1913 Edit this on Wikidata
Gweler hefyd y dudalen gwahaniaethu, Senghennydd.

Tanchwa Senghennydd oedd y drychineb waethaf yn hanes y diwydiant glo yng ngwledydd Prydain. Digwyddodd ym Mhwll Lancaster, Glofa'r Universal, ym mhentref glofaol Senghennydd, Sir Forgannwg ar 14 Hydref 1913. Collodd 439 o ddynion a bechgyn y pwll eu bywydau a hynny ar doriad gwawr. Roedd hyn yn dilyn tanchwa cynharach, ar 24 Mai 1901, pan laddwyd 81 o ddynion.

Y ffrwydrad yw'r ddamwain cloddio gwaethaf yng Nghymru erioed; yn wir, dyma'r ail waethaf drwy Ewrop, yn dilyn Trychineb Courrières yn Ffrainc.[1][2][3]

Roedd yn cynhyrchu glo ar gyfer peiriannau stêm neu ager, yn bennaf, ac roedd ynddo lawer o losgnwy (methan ac ocsigen gan fwyaf), nwy ffrwydrol iawn. Yn yr ymchwiliad a ddilynodd y tanchwa, dywedwyd i'r rheolwr Edward Shaw a'r perchnogion fod yn esgeulus. Dirwywyd Shaw £24 a'r cwmni £10. Mae hyn yn cyfateb a gwerth bywyd o 5 ceiniog y person.

  1. http://www.amgueddfacymru.ac.uk/erthyglau/2012-07-06/Bywydau-Glowyr-yn-werth-5c-yr-un-Ymgynghoriad-y-Llywodraeth-i-drychineb-Senghennydd-1913/
  2. "'Bywydau Glowyr yn werth 5½c yr un': Ymgynghoriad y Llywodraeth i drychineb Senghennydd 1913", Amgueddfa Cymru; adalwyd 27 Gorffennaf 2023
  3. ftmmachinery.com; Teitl: Top 30 Most Astonishing Mining Disasters in History; adalwyd 4 Medi 2024.
  4. "The Burning Pit Disaster: Rescue Scenes at the Universal Colliery". The Illustrated London News. 18 Hydref 1913. t. 4.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in