Tegau Eurfron | |
---|---|
Ganwyd | 5 g Cymru |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | arweinydd crefyddol |
Cysylltir gyda | Tri Thlws ar Ddeg Ynys Prydain |
Tad | Pelinor, brenin Cernyw |
Priod | Caradog Freichfras |
Plant | Cadfarch, Maethlu, Cawrdaf mab Caradog Freichfras, Maenarch ap Caradog |
Santes oedd Tegau Eurfron a gwraig Caradog Freichfras (477 - 540).
I fynaich yr Oesoedd Canol roedd hi'n fwyaf nodedig am dri pheth: ei chlogyn (neu fantell; un o Dri Thlws ar Ddeg Ynys Prydain), ei ffyddlondeb a'i morwyndod. Fe'i disgrifir fel gwraig Caradog yn y Rhamantau Ffrengig, Livre de Carados a'r Le Manteau Mal Taillé, darn byr a ddyddir i ddiwedd 12g.
Mae'r cofnod cyntaf o'r enw 'Tegau' i'w gael yn y 14g, yng ngwaith Goronwy Ddu ap Tudur (1320-70) ac mewn cerdd gan Dafydd ap Gwilym (fl.1340-70). Mae Guto'r Glyn (fl.1440-93) yn cymharu ei noddwraig gyda hi, a'i noddwr i Garadog Freichfras. Dywed fod ei mantell yn cyrraedd y llawr, ond nad oedd mantell merched eraill cyn hired. Tua'r un pryd mynnodd Lewis Glyn Cothi (fl.1447-86) fod ei noddwr o linach Caradog a 'Thegau Eururon' [1] Cyfeiria'r beirdd hyn ati fel symbol o burdod ei morwyndod a'i ffydlondeb i'w gŵr. Cyfeirir ati gyda'r enw 'Eurfron' am y tro cyntaf yn 1576.