Teresa Helena Higginson

Teresa Helena Higginson
Ganwyd27 Mai 1844 Edit this on Wikidata
Treffynnon Edit this on Wikidata
Bu farw15 Chwefror 1905 Edit this on Wikidata
Chudleigh Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethathro, cyfrinydd Edit this on Wikidata

Cyfrinydd Catholig oedd Teresa Helena Higginson (27 Mai 184415 Mawrth 1905[1]).

Ganwyd Higginson yn Nhreffynnon yn 1844, cyn symud i Gainsborough a Neston, Lloegr.[2] Aelodau o'r Eglwys Gatholig Rufeinig oedd ei rhieni: Robert Francis Higginson oedd ei thad a Mary (neé Bowness) o Cumbria oedd ei mam. Cyfarfu ei rhieni yn Iwerddon, a phriododd y ddau yno yn Loughlyn, Roscommon yn Hydref 1841. Gan fod y fam yn feichiog, daeth y ddau i Drefynnon i eni'r plentyn. Fe'i galwyd yn Teresa ar ôl Santes Teresa o Ávila a Helena ar ôl santes o'r un enw a sefydlodd 'Groes y Gwirionedd'.

Derbyniodd Teresa ei haddysg gynnar mewn ysgol Gatholig yn Nottingham. Yn oedolyn, bu'n byw yn: Bootle, Clitheroe, Caeredin a Chudleigh yn Nyfnaint ble y bu farw.[3]

Drwy gydol ei bywyd roedd ei dwylo a'i thraed yn gwaedu, nodwedd a elwir heddiw'n stigmata.[2]

Bu farw yn Chudleigh a chafodd ei disgrifio gan yr Eglwys Gatholig Rufeinig fel "Morwyn Duw".[4]

Ysgrifennwyd bywgraffiad o Teresa gan yr Arglwyddes Cecil Kerr ac fe'i cyfrifir fel y gwaith pwysicaf ar y gyfrinydd. Sylfaenwyd y bywgraffiad ar nifer o lythyrau gan Teresa ac ar dystiolaeth cynradd ychwanegol.

  1. Mae'r wefan teresahigginson.com yn ndoi dyddiad gwahanol, ac yn dweud: "15 November 1878. She was the daughter of Admiral Lord Walter Talbot Kerr and Lady Amabell Frederica Henrietta Cowper. She died on 19 July 1957 at age 78".
  2. 2.0 2.1 Teresa Helena Higginson, Amazon, adalwyd 24 Tachwedd 2015
  3. Gwefan teresahigginson.com; adalwyd 9 Ebrill 2016
  4. Life story, TeresaHigginson.com, adalwyd 24 Tachwedd 2015

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy