Teyrnas Dyfed

Arfbais Teyrnas Dyfed
Teyrnasoedd Cymru 400-800
(y map gwreiddiol gan William Rees 1959
Atgynhyrchwyd yn 'Hanes Cymru' gan John Davies)

Roedd teyrnas Dyfed yn un o deyrnasoedd cynnar Cymru. Roedd ei thiriogaeth yn cyfateb yn fras i Sir Benfro heddiw.

Lleolir rhan helaeth dwy o Bedair Cainc y Mabinogi, sef Pwyll Pendefig Dyfed a Manawydan fab Llŷr, yn Nyfed. Arberth yw prif lys Pwyll yn y chwedl.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy