Teyrnas Morgannwg

Arfbais Teyrnas Morgannwg

Roedd Teyrnas Morgannwg yn un o deyrnasoedd cynnar Cymru. Cymerodd y deyrnas ei henw oddi wrth un o'i brenhinoedd cynnar, Morgan Mwynfawr (fl tua 730). Enw arall arni oedd "Gwlad Morgan", a roddodd Glamorgan.

Cnewyllyn y deyrnas oedd Glywysing, ond ar adegau gallai hefyd gynnwys Gwent a dau o gantrefi Ystrad Tywi, sef fwy neu lai y cyfan o dde-ddwyrain Cymru.

Daeth y deyrnas i ben pan ddiorseddwyd y brenin olaf, Iestyn ap Gwrgant, gan y Norman Robert Fitz Hammo yn 1093. Llwyddodd disgynyddion Iestyn i gadw gafael ar ran o'r diriogaeth fel Arglwyddi Afan. O hynny allan, cyfyngwyd Morgannwg fel uned i'r ardal sy'n gorwedd rhwng afonydd Nedd a Thaf. Ychwanegwyd arglwyddiaeth Gŵyr i greu sir newydd Forgannwg trwy Ddeddf Uno 1536.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in