The Dark Knight (ffilm)

The Dark Knight
Cyfarwyddwr Christopher Nolan
Cynhyrchydd Christopher Nolan
Charles Roven
Emma Thomas
Serennu Christian Bale
Michael Caine
Heath Ledger
Maggie Gyllenhaal
Morgan Freeman
Cillian Murphy
Cerddoriaeth Hans Zimmer
James Newton Howard
Sinematograffeg Wally Pfister
Golygydd Lee Smith
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Warner Bros
Dyddiad rhyddhau Awstralia:
17 Gorffennaf 2008
Gogledd America:
18 Gorffennaf 2008
Y Deyrnas Unedig:
25 Gorffennaf 2008
Amser rhedeg 152 munud
Gwlad  Y Deyrnas Unedig Unol Daleithiau
Iaith Saesneg
Rhagflaenydd Batman Begins
Olynydd The Dark Knight Rises
Gwefan swyddogol
Adolygiad BBC Cymru'r Byd
(Saesneg) Proffil IMDb

Ffilm sy'n serennu Christian Bale a Heath Ledger yw The Dark Knight (2008). Seiliwyd y ffilm ar y cymeriad Batman o'r DC Comics, ac mae'n rhan o gyfres Christopher Nolan o ffilmiau. Dyma'r dilyniant i Batman Begins (2005). Adrodda'r ffilm hanes Bruce Wayne/Batman (Bale) wrth iddo ef a'r awdurdodau frwydro yn erbyn bygythiad newydd y Joker (Heath Ledger). Cafodd Nolan yr ysbrydoliaeth ar gyfer y Joker o'r llyfrau comig o'r 1940au a'r gyfres The Long Halloween (1996). Cafodd ei ffilmio'n bennaf yn Chicago, yn ogystal â lleoliadau eraill yn yr Unol Daleithiau, y DU a Hong Kong. Defnyddiodd Nolan gamera IMAX i ffilmio rhai golygfeydd, gan gynnwys ymddangosiad cyntaf y Joker yn y ffilm.

Ar yr 22ain o Ionawr, 2008, ar ôl gorffen ffilmio The Dark Knight, bu farw Ledger o gyfuniad o gyffuriau presgripsiwn. Arweiniodd hyn at sylw mawr yn cael ei roi i'r ffilm gan y wasg a chan y cyhoedd. Yn wreiddiol, bwriad Warner Bros. oedd i greu ymgyrch hyrwyddo ar gyfer The Dark Knight gan ddefnyddio gwefannau a ffilmiau byrion, gan ddefnyddio siotiau sgrîn o Heath Ledger fel y Joker. Ar ôl ei farwolaeth, newidiodd y stiwdio eu hymgyrch hyrwyddo.[1] Rhyddhawyd y ffilm ar yr 16eg o Orffennaf, 2008 yn Awstralia, ar y 18fed o Orffennaf, 2008 yng Ngogledd America ac ar y 24ain o Orffennaf, 2008 yn y DU. Derbyniodd y ffilm adolygiadau cadarnhaol pan gafodd ei rhyddhau a daeth y ffilm i fod yr ail ffilm yn unig i ennill dros $500 miliwn mewn sinemau yng Ngogledd America. Dyma yw'r pedwerydd ffilm yn unig i wneud dros $1 biliwn o ran gwerthiant. Yn sgîl ei llwyddiant beirniadol a masnachol, enillodd y ffilm wobrau amrywiol o'r Ffilm Orau i'r Effeithiau Arbennig Gorau.

  1. Advertising: Will Marketing Change After Star's Death? The Wall Street Journal. Adalwyd 17-03-2009

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy