Thomas Carlyle

Thomas Carlyle
Ffotograff o Thomas Carlyle, tua'r 1860au.
Ganwyd4 Rhagfyr 1795 Edit this on Wikidata
Ecclefechan Edit this on Wikidata
Bu farw5 Chwefror 1881 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Yr Alban, Teyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethieithydd, hanesydd llenyddiaeth, hanesydd, cyfieithydd, mathemategydd, athronydd, awdur ysgrifau, ysgrifennwr, beirniad llenyddol, nofelydd, athro Edit this on Wikidata
SwyddRector of the University of Edinburgh Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amSartor Resartus, On Heroes, Hero-Worship and the Heroic in History Edit this on Wikidata
MamMargaret Aitken Carlyle Edit this on Wikidata
PriodJane Welsh Carlyle Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Pour le Mérite Edit this on Wikidata
llofnod

Hanesydd, traethodydd, a bywgraffydd Albanaidd oedd Thomas Carlyle (4 Rhagfyr 17955 Chwefror 1881). Efe oedd prif feirniad diwylliannol yr oes Fictoriaidd, a dylanwadodd ar nifer o feirniad iau y cyfnod, gan gynnwys Matthew Arnold a John Ruskin. Dadleuodd o blaid arweinyddiaeth dadol a chryfder yr arwr, gan feirniadu damcaniaeth laissez-faire a llywodraeth seneddol. Mae ganddo arddull hynod o nodweddiadol: "cyfuniad o ymadroddion beiblaidd, geiriau gwerin, ystumiadau Tiwtonaidd, a bathiadau ei hunan, yn nhrefn yr annisgwyl".[1]

Ganwyd yn Ecclefechan, Swydd Dumfries, i deulu mawr o Galfiniaid. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Annan a Phrifysgol Caeredin, ac yno ymddisgleiriodd ym maes mathemateg. Cychwynnodd ar ei yrfa yn diwtor, ysgolfeistr, a newyddiadurwr. Darllenodd lyfr Germaine de Staël ar yr Almaen, gan fagu ynddo ddiddordeb yn llenyddiaeth ac athroniaeth Almaenig. Ymhlith ei weithiau cynnar mae Life of Schiller (1823) a'i gyfieithiad o Wilhelm Meister (1824) gan Goethe.

Priododd Jane Baillie Welsh ym 1826. Cyhoeddodd ei hunangofiant ysbrydol, Sartor Resartus, yng nghylchgrawn Fraser's ym 1833–34, cyn iddo symud i fyw yn Llundain. Ysgrifennodd hanes y Chwyldro Ffrengig (1837), traethawd ar Siartiaeth (1839), casgliad o'i ddarlithoedd dan y teitl On Heroes, Hero-Worship, and The Heroic in History (1841), golygiad o lythyrau ac areithiau Cromwell (1845), a bywgraffiad Ffredrig Fawr (1858–65).

Bu farw ei wraig ym 1866, ac ar ddiwedd ei fywyd cafodd Carlyle ei weld yn broffwyd hen ffasiwn. Claddwyd ym Mynwent Ecclefechan.

  1. (Saesneg) "Carlyle, Thomas" yn The Columbia Encyclopedia, 6ed argraffiad (Gwasg Prifysgol Columbia). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 27 Medi 2017.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy