Thomas Johnes

Thomas Johnes
Ganwyd1 Medi 1748 Edit this on Wikidata
Llwydlo Edit this on Wikidata
Bu farw23 Ebrill 1816 Edit this on Wikidata
Dyfnaint Edit this on Wikidata
Man preswylHafod Uchtryd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, cyhoeddwr, cyfieithydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 4edd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 1af y Deyrnas Unedig, Aelod o 2il Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 3edd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 5ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 14eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 15fed Senedd Prydain Fawr, Aelod o 16eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 17eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 18fed Senedd Prydain Fawr Edit this on Wikidata
TadThomas Johnes Edit this on Wikidata
MamElizabeth Knight Edit this on Wikidata
PriodJane Johnes, Maria Burgh Edit this on Wikidata
PlantMariamne Johnes, Evan Johnes Edit this on Wikidata

Aelod seneddol, pensaer tirwedd, ffermwr, cyhoeddwr, llenor a chymwynaswr cymdeithasol o Llwydlo, Swydd Amwythig, Lloegr oedd Thomas Johnes (1 Medi 174823 Ebrill 1816). Mae'n fwyaf adnabyddus am ddatblygu ystâd Hafod Uchtryd yng Ngheredigion.[1]

Symudodd Johnes o gartref y teulu yn Croft Castle i Hafod Uchtryd ger Cwmystwyth, Ceredigion, a dechreuodd ddatblygu yr ystâd drwy adeiladu capel anwes ar gyfer tenantiaid yr ystâd, yn ogystal ag ysgol a gerddi, llwybrau a phontydd godidog. Arbrofodd gyda bridio defaid a gwartheg, a thyfu cnydau newydd, gan sefydlu llaethdy ffynianus. Cafodd nifer sylweddol o goed eu plannu ar dir nad oedd yn addas ar gyfer cnydau; a gwobrwywyd medal aur y Royal Society of Arts i Johnes bum gwaith er mwyn cydnabod ei ymdrechion. Anogodd ei denantiaid i wella eu ymarfer ffermio, gan gyhoeddi A Cardiganshire Landlord's Advice to his Tenants ym 1800, ynghyd â chyfieithiad Cymraeg, a cynigodd wobrau am y cnydau gorau. Bu hefyd yn un o brif gefnogwyr Cymdeithas Amaeth Ceredigion a sefydlwyd ym 1784. Ymroddodd Johnes ei oes a'i ffortiwn i ddatblygu ystâd Hafod.[1][2]

  1. 1.0 1.1 "JOHNES, THOMAS (1748 - 1816), o'r Hafod, Sir Aberteifi, tirfeddiannwr, arloeswr amaethyddol, a llenor | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-01-06.
  2. The Annual Biography and Obituary for the Year 1817

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy