Math | grwp o adeiladau neu strwythurau diwydiannol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Torfaen |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.7703°N 3.0922°W |
Statws treftadaeth | Safle Treftadaeth y Byd |
Manylion | |
Safle Treftadaeth y Byd ym Mlaenafon, Torfaen, a'r ardal gyfagos ydy Tirlun Diwydiannol Blaenafon. Rhoddwyd y statws hwn gan UNESCO yn 2000 mewn cydnabyddaieth o'i le allweddol yn y Chwyldro Diwydiannol.[1]
Roedd Gwaith Haearn Blaenafon, sydd bellach yn amgueddfa, yn brif ganolfan cynhyrchu haearn gan ddefnyddio mwyn haearn, cloddio a charreg galch a gloddiwyd yn lleol. Cludwyd deunyddiau a chynhyrchion crai ar hyd tamffyrdd, camlesi a rheilffyrdd stêm. Mae'r tirlun yn cynnwys henebion gwarchodedig neu restredig o'r prosesau diwydiannol, seilwaith trafnidiaeth, tai gweithwyr ac agweddau eraill ar ddiwydiannu cynnar yn ne Cymru. Mae Amgueddfa Lofaol Cymru ("Pwll Mawr") hefyd yn rhan o'r tirlun.