Cystadleuaeth gyfansoddi cerddoriaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol yw Tlws Y Cyfansoddwr (Tlws y Cerddor gynt).
Diwygiwyd y gystadleuaeth yn 2024. Cyflwynir y Tlws i’r cyfansoddwr mwyaf addawol ar gyfer cyfansoddiad i ensemble siambr.[1] Dewiswyd sawl cerddor i weithio gyda mentor ac offerynnwyr i greu cyfansoddiadau newydd dros gyfnod o 7 mis. Bydd y gweithiau yn cael eu perfformio ar lwyfan y Pafiliwn.[2]