Toddion

Math o doddion o Swydd Efrog a elwir yn mucky fat.

Braster a geid allan o gig wrth ei rostio neu ei ffrio yw toddion[1], dripin[2] neu dripyn.[3] Gan amlaf daw o gig eidion, ond weithiau ceir toddion cig moch. Fe'i gasglir a'i loywi, hynny yw ei ddiwaddodi, gan ffurfio braster solet a werthir mewn blociau. Arferid taenu toddion ar fara a'i alw'n frechdan doddion.[4] Yn y gegin fodern defnyddir i rostio tatws neu ei rwbio ar olwyth o gig i'w gadw'n wlyb wrth iddo goginio.[5]

  1. S. Minwel Tibbott. Geirfa'r Gegin (Amgueddfa Werin Cymru, 1983), t. 66.
  2. Tibbott. Geirfa'r Gegin (1983), t. 61.
  3.  dripyn. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 30 Mehefin 2015.
  4.  brechdan. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 30 Mehefin 2015.
  5. Good Housekeeping Food Encyclopedia (Llundain, Collins & Brown, 2009), t. 17.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy