Tomen y Mur

Tomen y Mur
Mathsafle archaeolegol, caer Rufeinig, castell mwnt a beili, adeilad Rhufeinig, Vicus Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.93°N 3.927°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH7088638521 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwME078 Edit this on Wikidata

Mae Tomen y Mur neu Mur y Castell yn safle caer Rufeinig a chastell o'r cyfnod Normanaidd yng Ngwynedd; cyfeiriad grid SH709384.

Saif Tomen y Mur ym mhen draw lôn fechan sy'n arwain i'r dwyrain oddi ar y briffordd A470 rhyw chwarter milltir i'r de o'r gyffordd gyda'r A487, i'r de-ddwyrain o bentref Gellilydan ac i'r gogledd o Drawsfynydd.

Credir i'r gaer Rufeinig gael ei hadeiladu o gwmpas 77 neu 78 OC. yn ystod ymgyrchoedd Agricola yn y cylch. Yn wreiddiol roedd muriau pridd yn amgylchynu sgwar o tua 1.7 ha.. Yng nghyfnod yr ymerawdwr Hadrian, tua 120 OC., ail-adeiladwyd y gaer mewn carreg. Cafwyd hyd i ddeg maen gyda arysgrifau yn cofnodi gwneud y gwaith yma gan wahanol "ganrifoedd" o filwyr; mae un o'r meni hyn yn awr yn nhafarn y Grapes, Maentwrog. Credir fod y gaer wedi ei gadael erbyn canol yr 2g. Gellir gweld nifer o olion Rhufeinig diddorol yno, gan gynnwys amffitheatr fechan, baddondy a mansio, gwesty ar gyfer teithwyr. Roedd y gaer ar ffordd Rufeinig Sarn Helen, a gellir gweld olion y ffordd yn y cyffiniau hefyd, gan gynnwys olion y bont lle roedd yn croesi Nant Tyddyn-yr-ynn, ychydig islaw Llyn yr Oerfel, oedd yn cyflenwi dŵr i'r gaer. Rhedai ffordd Rufeinig arall drosodd i Bennant-Lliw ac i gaer Rufeinig Caer Gai ger Llyn Tegid.

Mae cyfeiriad at Domen y Mur, dan yr enw "Mur y Castell" yn y bedwaredd gainc o'r Mabinogi, chwedl Math fab Mathonwy. Mae Lleu Llaw Gyffes a Blodeuwedd yn byw yno, wedi i Flodeuwedd gael ei chreu gan y dewin Gwydion fel gwraig i Lleu.

Tomen y Mur
Mwnt y castell

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy