Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Rhondda Cynon Taf |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.5372°N 3.3847°W |
Cod OS | ST040829 |
Cod post | CF72 |
Gwleidyddiaeth | |
Pentref yng nghymuned Llantrisant ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Cymru, yw Tonysguboriau[1] (Saesneg: Talbot Green).[2] Saif i'r gorllewin o dref Llantrisant ac i'r gogledd o bentref Phont-y-Clun.
Ar hyd y blynyddoedd mae Tonysguboriau wedi cadw ei enw fel tref ddistaw gyda siopau lleol yn gwerthu cynhyrch lleol, ond yn y flwyddyn 2006, fe sefydlwyd siop Tesco Extra newydd yng hyd a siopau'r stryd fawr fel Next, Marks and Spencers a TKMaxx, a daeth Tonysguboriau yn dref prysur gyda llawer o draffig.
Mae yna ysgol gynradd ac ysgol uwchradd yn Tanysguboriau, Ysgol Gyfun y Pant ac Ysgol Gynradd Tonysguboriau.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mick Antoniw (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Alex Davies-Jones (Llafur).[3][4]