Math | traeth, bar |
---|---|
Cysylltir gyda | John Evans, cocsen |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.240944°N 4.043623°W |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
Traeth llanwol eang yn Sir Conwy, Cymru, yw Traeth Lafan. Saif ar Fae Conwy rhwng Bangor, Gwynedd a Llanfairfechan.
Ardal o fanciau tywod a mwd rhynglanwol ydyw, ar ben dwyreiniol Afon Menai. Ei arwynebedd pan fo'r llanw allan yw 2642 hectar. Pan fo'r llanw allan mae nifer o ffrydiau bychain dŵr croyw yn rhedeg drosto i'r môr. Mae'n cynnwys banc tywod anferth ar ei ymyl ogledd-ddwyreiniol a elwir yn Fanc y Dytshmon (Dutchman's Bank). Yn ôl traddodiad roedd y traeth yn dir sych ar un adeg ac yn rhan o deyrnas chwedlonol Tyno Helig a foddiwyd un noson ystormus.
Am ganrifoedd roedd pobl yn gorfod croesi Traeth Lafan ar lanw isel i ddal cwch fferi a ddeuai drosodd i'w cyfarfod er mwyn croesi i Ynys Môn. Dyma'r ffordd y cludwyd corff Siwan (gwraig Llywelyn Fawr) i'w orffwysfa ym mynachlog Llan-faes yn 1237. Yma hefyd, yn ôl pob tebyg, yr ymladdwyd Brwydr Moel-y-don ar 6 Tachwedd 1282, rhwng y Cymry a'r Saeson.
Dyma gofnod o groesi Traeth Lafan ar y fferi ar 28 Medi 1685: