Traeth Mawr, Sir Benfro

Traeth Porth Mawr
Mathbae, traeth Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.8944°N 5.2958°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruPaul Davies (Ceidwadwyr)
AS/au y DUStephen Crabb (Ceidwadwr)
Map
Statws treftadaethHenebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion

Traeth baner las yn Sir Benfro, Cymru, yw'r Traeth Mawr, neu'r Porth Mawr (Whitesands yn Saesneg).[1][2] Fe'i lleolir ger Tyddewi yng nghymuned Tyddewi a Chlos y Gadeirlan. Dyma un o draethau mwyaf poblogaidd y sir. Mae'n rhan o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Mae'r bae ei hun, a elwir y "Porth Mawr", wedi'i leoli 2 filltir (3.2 km) i'r gorllewin o Tyddewi ac 1 filltir (1.6 km) i'r de o Penmaen Dewi, wedi'i ddisgrifio fel y traeth syrffio gorau yn Sir Benfro. Mae'r gair "porth" yma'n cyfeirio at y defnydd o'r bae fel porthladd i gychod, a cheir tystiolaeth fod yma gysylltiad agos gydag Iwerddon ers canrifoedd.

Fel cawr uwch y tirlun, saif Carn Llidi, lwmpyn o graig 594 tr (181 m) uwch y môr, ac ar ei lethrau ceir olion tai o'r Oes Haearn a'r Oes Efydd. Dyma leoliad rhannau o awdl Waldo Williams Tyddewi:

Ar gadernid Carn Llidi
Ar hyd un hwyr oedwn i,
Ac yn syn ar derfyn dydd
Gwelwn o ben bwy gilydd
Drwy eitha Dyfed y rhith dihafal
Ei thresi swnd yn eurwaith ar sindal
Lle naid y lli anwadal - yn sydyn
I fwrw ei ewyn dros far a hual.

Ar ben ucha'r traeth ceir penrhyn Trwynhwrddyn a'r ochr arall iddo ceir Porth Lleuog.

  1. Blue flag beaches in Wales
  2. "Whitesands Bay". UKAttraction.com. n.d. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Mehefin 2008. Cyrchwyd 25 Mawrth 2019.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in