Math | pentrefan |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Penbryn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.1341°N 4.5145°W |
Cod OS | SN275515 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Elin Jones (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Ben Lake (Plaid Cymru) |
Pentref bychan yn ne Ceredigion yw Tre-saith (hefyd: Tresaith).[1] Fe'i leolir ar lan Bae Ceredigion tua 8 milltir i'r gogledd-ddwyrain o dref Aberteifi a thua milltir a hanner o Aberporth, i'r gorllewin.
Mae Tre-saith yn gorwedd ym mhlwyf hanesyddol a chymuned gyfoes Penbryn. Cofnodir 'Traeth Saith' fel ffurf arall ar yr enw.[2]
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[4]
Yn eglwys y plwyf ceir beddrod y nofelydd Allen Raine a fu'n adnabyddus ar droad yr 20g am ei nofelau Cymreig a Cheltaidd.[2] Mae'r canwr a'r actor Dewi 'Pws' Morris yn byw yn y pentref.