Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.9491°N 3.631°W |
Cod OS | SN929291 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | James Evans (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol) |
Pentref yng nghymuned Llywel, Powys, Cymru, yw Trecastell (Saesneg: Trecastle). Saif yn ne-orllewin y sir ar bwys Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Gorwedd Trecastell ar y draffordd A40 rhwng Aberhonddu a Llanymddyfri, tua 3 milltir i'r gorllewin o Bontsenni. I'r gogledd ceir Mynydd Epynt ac i'r de ceir y Mynydd Du a'r Fforest Fawr.
Ger y pentref ceir safle caer Rufeinig dros nos Y Pigwn a cheir cwrs ffordd Rufeinig gerllaw. O gyfnod cynharach eto mae cylchoedd cerrig Mynydd Bach Trecastell, tua 2 filltir o'r pentref.
Enwir y pentref ar ôl y castell mwnt a beili a godwyd yno yn y 12g gan yr arglwydd Normanaidd lleol Bernard de Neufmarche i amddiffyn Aberhonddu rhag ymosodiadau o gyfeiriad Deheubarth i'r gorllewin. Treuliodd Edward I o Loegr dri diwrnod yn Nhrecastell yn 1295 yn ystod gwrthryfel Cymreig yn ymladd ag arglwyddi Cymreig yr ardal. Erys olion y castell ar y safle heddiw.
Yn y cyfnod modern, daeth Trecastell yn arosfa ar lwybr y goets fawr rhwng Caerloyw a Llanymddyfri. Roedd ar lwybr pwysig i'r porthmyn hefyd.
Erbyn y 19g bu gan y pentref wyth ffair flynyddol, gwaith nwy, dwy ysgol, melin grawnfwyd, dau gofail, 16 siop a sawl tafarn. Roedd yno felin wlân hefyd, un o'r fwyaf yn yr ardal.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[2]