Trefonnen

Trefonnen
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth270 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCasnewydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.5489°N 2.9462°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000825 Edit this on Wikidata
Map

Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Casnewydd yw Trefonnen[1] neu Yr As Fach (Saesneg: Nash). Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 281.

Saif Trefonnen i'r de o ddinas Casnewydd, ar lan ddwyreiniol aber Afon Wysg. Ceir Goleudy Dwyrain Wysg a nifer o ffatrioedd yma. Arferai bywoliaeth plwyf Trefonnen fod yn eiddo i Goleg Eton, a dalodd am adeiladu'r eglwys.

Gerllaw mae Gwarchodfa Natur Gwlybtiroedd Casnewydd, a agorwyd ym mis Mawrth 2000.

Arferid defnyddio'r ffurf "Tre'ronnen" yn Gymraeg, yn ogystal a'r ffurf "Y Nais" - o'r Saesneg Nash a ddaeth o'r Lladin Fraxino (1154-8).[2]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Dictionary of the Place-names of Wales (Gwasg Gomer, 2008)

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in