Math | tref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 6,356, 6,272 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Merthyr Tudful |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 807.74 ha |
Cyfesurynnau | 51.6639°N 3.3039°W |
Cod SYG | W04000722 |
Cod OS | ST098969 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Dawn Bowden (Llafur) |
AS/au y DU | Gerald Jones (Llafur) |
Tref fechan a chymuned ym mwrdeisdref sirol Merthyr Tudful, Cymru, yw Treharris.[1][2] Saif yn rhan ogleddol y sir tua 1 km i'r gorllewin o dref Trelewis, ar y briffordd A472. Mae'r gymuned yn cynnwys yr aneddiadau Edwardsville, Pentrebach a Mynwent y Crynwyr.
Sefydlwyd y dref o amgylch gwaith glo yr Harris's Navigation Colliery, a agorwyd yn 1878. Enwyd y gwaith glo a'r dref ar ôl Frederick William Harris, perchennog yr Harris Navigation Steam Coal Company. Ceir Ysgol Gynradd Gymraeg Rhydygrug yno.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Dawn Bowden (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Gerald Jones (Llafur).[4]