Trenau Arriva Cymru

Trenau Arriva Cymru
Gorolwg
MasnachfraintCymru a'r Gororau
8 Rhagfyr 2003 –
13 Hydref 2018
Prif ardal(oedd)Cymru
Ardal(oedd) arallGogledd-orllewin Lloegr
Gorllewin Canolbarth Lloegr
De-orllewin Lloegr
Maint fflyd125 uned
3 set locomotif tynnu
Gorsafoedd weithredir247[1]
Llwybrau weithredir (km)1623.8
Talfyriad National RailAW
OlynyddTrafnidiaeth Cymru
Cwmni rhiantArriva UK Trains
Gwefanarrivatrainswales.co.uk

Roedd Trenau Arriva Cymru (Saesneg: Arriva Trains Wales) yn gwmni a oedd yn gweithredu trenau yng Nghymru a'r gororau, ac yn berchen i Arriva UK Trains. Roedd yn rhedeg gwasanaethau trefol a rhyng-drefol i bob orsaf reilffordd yng Nghymru, yn cynnwys Caerdydd Canolog, Heol y Frenhines, Caerdydd, Casnewydd, Abertawe, Wrecsam, a Chaergybi, a rhai gorsafoedd yn Lloegr fel Henffordd, Amwythig, Caer, Piccadilly Manceinion, New Street Birmingham. Yng Ngogledd Cymru, mae Virgin Trains yn gweithredu trenau o Lundain i Gaergybi, ac yn Ne Cymru, mae First Great Western yn gweithredu trenau o Lundain i Abertawe, a Harbwr Portsmouth i Gaerdydd. Mae Arriva Cross Country'n gweithredu trenau o Nottingham i Gaerdydd.

Cychwynodd y cwmni weithredu yn Rhagfyr 2003, gan gymryd yr awenau o gwmni Wales & Borders. Yn dilyn Deddf Rheilffordd 2005 a Deddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006, datganolwyd cyfrifoldeb dros y fasnachfraint i Lywodraeth Cymru. Daeth masnachfraint Arriva i ben yn Hydref 2018 ac er i'r cwmni gynnig cais ar gyfer dewis darparwr newydd, fe dynnodd y cwmni allan o'r broses yn Hydref 2017. Mae'r darparwr newydd yn gweithredu o dan adain cwmni sy'n berchen i Lywodraeth Cymru, sef Trafnidiaeth Cymru.

Un o drenau Arriva Cymru'n cyrraedd Deganwy
  1. "Our Company". Arriva Trains Wales. Cyrchwyd 28 April 2017.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in