Twm o'r Nant | |
---|---|
Ganwyd | Ionawr 1739 Llanefydd |
Bu farw | 3 Ebrill 1810 Dinbych |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, dramodydd, saer maen |
Bardd a dramodydd sy'n enwog am ei anterliwtiau oedd Thomas Edwards neu Twm o'r Nant (Ionawr 1739 – 3 Ebrill 1810). Daeth yn ffigwr amlwg ym mywyd y werin ar ddiwedd y 18g a dechrau'r 19g ac mae ei waith yn adleisio profiad a theimlad y dosbarth hwnnw yn wyneb anghyfiawnderau mawr yr oes. Yn ystod ei oes cafodd ei alw "y Cambrian Shakespeare" gan ei edmygwyr.[1][2]