Twrnamaint ddileu

Twrnamaint ddileu
Enghraifft o'r canlynoltournament system Edit this on Wikidata
Mathtwrnamaint Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebTwrnamaint gron Edit this on Wikidata
Cwpan Cymru - enghraifft o dwrnamaint ddileu

Mae system twrnamaint dileu,[1] dileu fesul cymal, gornest un cyfle,[2] bwrw allan neu, ar lafar, noc owt yn ddull o gynnal twrnamaint chwaraeon. Mae pob cyfranogwr yn chwarae yn erbyn cyfranogwr arall. Mae enillydd y gêm neu'r gemau yn symud ymlaen i'r rownd nesaf ac i'r collwr mae ei rediad yn y twrnamaint yn dod ben.

Gelwir y gêm rhwng y ddau dîm neu chwaraewr olaf, sydd felly wedi ennill eu holl gemau hyd at y pwynt hwnnw, yn rownd derfynol neu'n aml yn ffeinal ar lafar.

Weithiau mewn rownd mae'r cyfranogwyr yn chwarae dwy gêm yn erbyn ei gilydd, unwaith yng maes cartref pob cyfranogwr.

  1. "knock-out". Geiriadur yr Academi. Cyrchwyd 2022-08-18.
  2. "Gornest un cyfle?". Twitter Bryn Williams @willia_bryn. Cyrchwyd 17 Awst 2022.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy