Math | cadwyn o fynyddoedd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | South Downs National Park |
Sir | Hampshire, Gorllewin Sussex, Dwyrain Sussex |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 258.7 mi² |
Uwch y môr | 889 troedfedd |
Cyfesurynnau | 50.9°N 0.5°W |
Hyd | 68.4 milltir |
Deunydd | sialc |
Cadwyn o fryniau sialc sy'n ymestyn am tua 670 km2 (260 milltir sgwâr) ar draws siroedd arfordirol De-ddwyrain Lloegr yw'r Twyni Deheuol[1] (Saesneg: South Downs). Mae'r Twyni yn ymestyn o Ddyffryn Itchen yn Hampshire yn y gorllewin i Bentir Beachy yn Nwyrain Sussex yn y dwyrain. O'r sgarp serth ar yr ochr ogleddol mae golygfeydd helaeth ar draws y Weald. Butser Hill yw pwynt uchaf y Twyni, gyda chopa 270 metr (890 troedfedd) uwchben lefel y môr. Nodweddir y dirwedd gan dwyndir tonnog, dyffrynnoedd sych, a tiroedd helaeth o laswellt byr.
Mae'r Twyni Gogleddol yn gadwyn arall o fryniau sialc sy'n rhedeg yn gyfochrog â'r Twyni Deheuol, tua 30 milltir (48 km) i'r gogledd, ar ymyl ogleddol y Weald.