Math | dinas |
---|---|
Enwyd ar ôl | Dewi Sant |
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro |
Sir | Sir Benfro |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 17.93 mi² |
Gerllaw | Afon Alun |
Yn ffinio gyda | Rhosson |
Cyfesurynnau | 51.8822°N 5.2686°W |
Cod OS | SM755255 |
Cod post | SA62 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Paul Davies (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Henry Tufnell (Llafur) |
Dinas bach yn Sir Benfro, Cymru, yw Tyddewi[1] (Saesneg: St Davids).[2] Hi yw dinas leiaf Cymru a sedd esgobaeth Tyddewi. O ran llywodraeth leol fe'i lleolir yng nghymuned Tyddewi a Chlos y Gadeirlan. Mynyw oedd ei henw mewn Cymraeg Canol, o'r enw lle Lladin, Menevia. Yn ôl traddodiad fe'i sefydlwyd gan Dewi Sant yn y 6g. Mae Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn dominyddu'r dref.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Paul Davies (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Henry Tufnell (Llafur).[4]