|
Rhan o'r flwyddyn yw tymor sydd â newidiadau mewn tywydd, ecoleg, ac oriau golau dydd. Ceir pedair rhan: gwanwyn, haf, hydref a gaeaf. Natur a newid yn y tywydd sy'n ffurffio'r tymhorau a hynny cylchdroad y blaned o gwmpas yr Haul. Arferai'r Celtiaid ddathlu dechrau a diwedd y tymhorau e.e. Alban Hefin, sef dydd hiraf y flwyddyn. Ceir cyfeiriadau llu at y tymhorau gan feirdd y canrifoedd e.e. yr awdl "Gwanwyn" gan Dic Jones neu'r awdl "Yr Haf" gan R. Williams Parry.