Tywysog Cymru yw teitl etifedd diymwad coron y Deyrnas Unedig. Diben gwreiddiol y teitl oedd i uno Cymru dan benarglwyddiaeth Tywysog Gwynedd. Y person cyntaf i ddefnyddio'r teitl oedd Dafydd ap Llywelyn[1], ond Llywelyn ap Gruffudd oedd y cyntaf i gael ei gydnabod fel Tywysog Cymru, gyda sefydlu Tywysogaeth Cymru ym 1267. Ar ôl cwymp Llywelyn ym 1282 cafodd y dywysogaeth a'r teitl eu meddiannu gan goron Lloegr, ac ers arwisgo Edward o Gaernarfon ym 1301 mae'r teitl wedi cael ei roi i aer brenin Lloegr. Mae rhai eraill wedi hawlio'r teitl, yn bennaf Dafydd ap Gruffudd, Owain Lawgoch ac Owain Glyn Dŵr.