Uffern

Uffern
Enghraifft o'r canlynolcysyniad crefyddol, lleoliad chwedlonol Edit this on Wikidata
Mathbyd y meirw Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebnefoedd, paradwys Edit this on Wikidata
Rhan omytholeg Cristnogol, nef ac uffern Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mewn sawl crefydd, man yw Uffern lle y cosbir pechaduriaid a phobl drygionus ar ôl eu marwolaeth am eu gweithredoedd pan fuont yn fyw. Fel arfer fe'i lleolir dan y ddaear ac mae'n cyfateb i raddau i'r syniad o arallfyd y meirw a gynrychiolir gan Hades ym mytholeg y byd clasurol. Dan ddylanwad Cristnogaeth, uniaethwyd yr Annwn Cymreig ag Uffern hefyd, ond math o Baradwys arallfydol oedd Annwn yn wreiddiol, fel y'i darlunir yn chwedl Pwyll Pendefig Dyfed.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in