Math o gyfryngau | Islamic term, Sufi terminology |
---|---|
Crëwr | God in Islam, Rabb, Ilah in Islam, Al-lâh |
Rhan o | Alamin |
Cysylltir gyda | ad-dīn, al-milla, madhhab |
Cyfres | Ḥizb Allāh, Abd, Firqa Najiya |
Lleoliad | Y Byd Mwslemaidd, Dār al-Islām, world, ledled y byd |
Prif bwnc | Tawhid, obedience in Islam, dawah |
Gweithredwr | Muslim, mu'min, Muhsin |
Sylfaenydd | Muhammad |
Enw brodorol | أُمَّة |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ystyr y gair Arabeg Umma (hefyd Ummah, Arabeg: أمة , ynganiad ŵm-ma) yw 'Cymuned' neu 'Genedl'. Ei ystyr yn y Coran yw 'Cymuned Islam' neu 'Gymuned y Ffyddlon'. Fe'i defnyddir hefyd mewn ystyr mwy cyffredinol i olygu'r gwladwriaethau neu wledydd Islamaidd gyda'i gilydd, fel math o gymanwlad grefyddol neu, mewn ystyr mwy seciwlar a diweddar, i olygu'r genedl Arabaidd mewn cyd-destun pan-Arabaidd. Yn ei ystyr ehangach (ummat al-mu'minin), mae'n golygu'r byd Islamaidd cyfan ynghyd â'r Byd Islamaidd delfrydol. Ond i'r rhan fwyaf o Fwslemiaid cyffredin mae'r umma yn rhywbeth mwy cyfarwydd ond anodd i'w diffinio, fel sôn am 'Y Byd Cristnogol' a'r 'Gymuned Gristnogol' yng nghyd-destun Cristnogaeth.