Enghraifft o'r canlynol | corff llywodraethu chwaraeon |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1954 |
Aelod o'r canlynol | Undeb Gwyddbwyll Ewrop |
Pencadlys | Cymru |
Gwladwriaeth | Cymru |
Gwefan | http://www.welshchessunion.org.uk |
Ffederasiwn gwyddbwyll cenedlaethol Cymru yw Undeb Gwyddbwyll Cymru. Fe'i sefydlwyd ar 19 Mehefin 1954 drwy uno cymdeithasau yn ne Cymru a Mynwy, ac i ddechrau roedd yn rhan o Ffederasiwn Gwyddbwyll Prydain (BCF). Sefydlodd yr Undeb Pencampwriaeth Gwyddbwyll Cymru yn 1955.
Ar 15 Tachwedd 1969 datgysylltodd wrth y BCF a gwneud cais i fod yn aelod llawn ac annibynnol o Ffederasiwn Gwyddbwyll y Byd. Un o arweinwyr yr ymgyrch dros undeb annibynnol i Gymru oedd y Prifardd a'r llenor T. Llew Jones. Derbyniwyd y cais gan FIDE yng Nghyngres Siegen yn 1970 a chafodd Cymru'r cyfle i gystadlu yn ei Olympiad Gwyddbwyll cyntaf yn Skopje 1972, gan ddod yn y 43ain safle o 62.
Nod yr Undeb yw hyrwyddo, trefnu a rheoli gwyddbwyll gystadleuol led led Cymru. Ei slogan yw Ymosodiad Dewr, Amddiffyniad Sicr.