Enghraifft o'r canlynol | ideoleg wleidyddol |
---|---|
Math | unionism |
Unoliaethwr neu Undebwr (Saesneg: Unionist) yw person sy'n dymuno i'w gwlad neu ranbarth eu hunain ddod neu barhau yn rhan o wlad fwy. Mae "Undebwr" yn derm mwy amwys, gan y gall hefyd gyfeirio at aelod o Undeb Llafur.
Cyfeirir at bobl sy'n dymuno i Gymru neu'r Alban barhau yn rhan o'r Deyrnas Unedig fel Unoliaethwyr, a defnyddid y term hefyd am ochr y Gogledd yn Rhyfel Cartref America, oedd yn gwrthwynebu ymraniad y wlad. Y defnydd mwyaf cyffredin ar hyn o bryd yw fel term cyffredinol am Unoliaethwyr yng Ngogledd Iwerddon, sy'n dymuno parhau yn rhan o'r Deyrnas Unedig ac yn gwrthwynebu uno a Gweriniaeth Iwerddon. Y blaid Unoliaethol fwyaf yng Ngogledd Iwerddon ar hyn o bryd yw Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd.
Mae'r Blaid Geidwadol yn y Deyrnas Unedig yn defnyddio'r term yn ei henw ffurfiol, "Plaid Geidwadol ac Unoliaethol".