Cyfarwyddwr | Pete Docter Bob Peterson |
---|---|
Cynhyrchydd | Jonas Rivera John Lasseter Andrew Stanton |
Ysgrifennwr | Bob Peterson Pete Docter Pete Docter Bob Peterson Thomas McCarthy |
Serennu | Edward Asner Christopher Plummer Jordan Nagai Bob Peterson Delroy Lindo Jeromy Ranft John Ratzenberger |
Cerddoriaeth | Michael Giacchino (cân) |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Pixar Animation Studios |
Dyddiad rhyddhau | 16 Hydref, 2009[1] |
Amser rhedeg | 96 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
(Saesneg) Proffil IMDb | |
Ffilm Disney-Pixar a animeiddiwyd ar gyfrifiadur yw Up (2009). Adrodda hanes hen ŵr pigog a sgowt gor-awyddus sy'n hedfan i Dde America mewn tŷ sy'n hedfan gyda chymorth balwnau heliwm. Dosbarthwyd y ffilm gan Walt Disney Pictures, a chafodd ei noson agoriadol yng Ngŵyl Ffilm Cannes 2009, y ffilm animeiddiedig gyntaf i agor yno. Rhyddhawyd y ffilm ar y 29ain o Fai, 2009 yng Ngogledd America a bwriedir ei rhyddhau yn y Deyrnas Unedig ar yr 16eg o Hydref, 2009. Dyma ail ffilm y cyfarwyddwr Pete Docter (a gyfarwyddodd Monsters, Inc. hefyd), a gwnaed y gwaith lleisiol gan Edward Asner, Christopher Plummer, Bob Peterson a Jordan Nagai ymysg eraill.