Uwch Gynghrair Moldofa

Uwch Gynghrair Moldofa
GwladMoldova
CydffederasiwnUEFA
Sefydlwyd1992
Nifer o dimau8
Lefel ar byramid1
Disgyn iAdran "A" Moldofa
CwpanauCwpan Pêl-droed Moldofa
Super Cup Moldofa
Cwpanau rhyngwladolCynghrair y Pencampwyr UEFA
Cynghrair Europa UEFA
Pencampwyr PresennolSheriff Tiraspol (20. teitl)
(2021–22)
Mwyaf o bencampwriaethauSheriff Tiraspol (20)
Gwefanfmf.md
2021–22 Moldovan National Division

Adran Genedlaethol Moldofa (Rwmaneg: Divizia Națională) yw Uwch Gynghrair pêl-droed Gweriniaeth Moldofa. Sefydlwyd y gystadleuaeth ym 1992, pan ddaeth y wlad yn annibynnol oddi ar yr Undeb Sofietaidd. Caiff ei gweinyddu fel rhan o strwythur genedlaethol Ffederasiwn Pêl-droed Moldofa yr FMF.

Ar hyn o bryd mae wyth tîm yn y gystadleuaeth. Ar ddiwedd y tymor, mae'r clwb gwaelod yn cael ei israddio i'r Adran "A" (sef, yr ail haen) a'i ddisodli gan bencampwr y gynghrair is.

Sheriff Tiraspol sydd wedi'i leoli yng Ngweriniaeth Moldafia Pridnestrovia - tiriogeaeth sydd heb ei gydnabod de jure - yw'r clwb cynghrair mwyaf llwyddiannus gydag 19 teitl, ac fe'i dilynir gan Zimbru Chișinău gydag wyth buddugoliaeth. Fe wnaeth Dacia Chișinău, FC Tiraspol a Milsami Orhei hefyd orchfygu'r teitl ar un achlysur.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy