Gwlad | Slofenia |
---|---|
Cydffederasiwn | UEFA |
Sefydlwyd | 1991 |
Nifer o dimau | 10 |
Lefel ar byramid | 1 |
Disgyn i | 2. SNL (Ail Adran Slofenia |
Cwpanau | Cwpan Slofenia |
Cwpanau rhyngwladol | Cynghrair y Pencampwyr UEFA Cynghrair Europa UEFA |
Pencampwyr Presennol | Maribor (15fed teitl) (2018–19) |
Mwyaf o bencampwriaethau | Maribor (15 teitl) |
Prif sgoriwr | [Marcos Tavares (148) |
Partner teledu | Planet TV RTV Slovenija |
Gwefan | prvaliga.si |
2019–20 |
Y PrvaLiga Telekom Slovenije neu, ar lafar ac yn dalfyredig, PrvaLiga yw Uwch Gynghrair pêl-droed Slofenia a phinacl system byramid cynghrair y wlad, Slovenska Nogometna Liga sy'n cynnwys 3 prif haen - dwy adran genedlaethol ac yna adrannau rhanbarthol, Gogledd, Dwyrain, De, Gorllewin. Talfyrrir enw'r Uwch Gynghrair i 1. SNL. Gweinyddir yr Uwch Gynghrair a'r cynghreiriaid eraill gan Gymdeithas Bêl-droed Slofenia.
Noder hefyd mai PrvaLiga yw'r enw ar Uwch Gynghrair Croatia ac Uwch Gynghrair Gogledd Macedonia hefyd, ond mae'r tair gynghrair arwahân.