Math | cwmwd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Penllyn |
Sir | Teyrnas Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.868782°N 3.669025°W |
Un o ddau gwmwd Cantref Penllyn ym Meirionnydd (de Gwynedd) oedd Uwch Tryweryn.
Gorweddai Uwch Tryweryn yn rhan orllewinol cantref Penllyn gyda'r Afon Tryweryn yn nodi rhan o'r ffin rhyngddo a'r ail gwmwd, Is Tryweryn, gan roi iddo ei enw. Ffiniai ag Is Aled i'r gogledd, Mochnant Uwch Rhaeadr a chwmwd Tal-y-bont (yn cynnwys cwmwd Mawddwy ar ôl 1536) i'r de ac Ardudwy Uwch Artro i'r gorllewin. Canolog i'r cwmwd oedd Llyn Tegid; roedd Caer Gai, maerdy cynnar Penllyn, ar ei lan orllewinol.
Fel gweddill Penllyn, roedd Uwch Tryweryn yn rhan o deyrnas Powys hyd at ddechrau'r 13g, pan gipiwyd Penllyn gan Llywelyn Fawr, Tywysog Gwynedd. Ar ôl goresgyniad 1283 daeth yn rhan o'r Sir Feirionnydd newydd.
Roedd y cwmwd yn cynnwys tri phlwyf: