Valens | |
---|---|
Ganwyd | 328 Vinkovci |
Bu farw | 9 Awst 378 o Brwydr Adrianople Edirne |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | gwleidydd, swyddog milwrol |
Swydd | ymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig, Ymerawdwr Bysantaidd, Count of the Stable, pontifex maximus, imperator, Tribunicia potestas, Conswl Rhufeinig, Conswl Rhufeinig, Conswl Rhufeinig, Conswl Rhufeinig, Conswl Rhufeinig, Conswl Rhufeinig |
Tad | Gratian |
Priod | Albia Dominica |
Plant | Valentinianus Galates, Anastasia |
Llinach | Valentinianic dynasty |
Ymerawdwr Rhufeinig oedd Flavius Iulius Valens (Lladin: IMPERATOR CAESAR FLAVIVS IVLIVS VALENS AVGVSTVS; 328 – 9 Awst 378).
Ganed ef yn Cibalae (Vinkovci yn Serbia heddiw) yn fab i Gratian yr Hynaf. Credir iddo ymuno a'r fyddin yn y 360au, gan gymeryd rhan gyda'i frawd Flavius Valentinianus yn ymgyrch yr ymerawdwr Julian yn erbyn y Persiaid.
Pan lofruddwiyd yr ymerawdwr Jovianus, cyhoeddwyd Valentinianus yn Augustus ar 26 Chwefror 364. Cyhoeddodd yntau ei frawd Valens yn gyd-ymerawdwr ar 28 Mawrth. Rhoddwyd rhan ddwyreiniol yr ymerodraeth iddo i'w llywodraethu. Bu raid iddo ddelio ag ymgais gan berthynas i'r ymerawdwr Julian, Procopius, i hawlio'r orsedd, a dim ond yn 366 y gallodd Valens ei orchfygu a'i ddienyddio.
Bu Valens yn ymladd yn erbyn y Gothiaid ac yn erbyn y Persiaid. Roedd yn cynllunio ymgyrch yn y dwyrain pan symudodd nifer fawr o Fisigothiaid i mewn i'r ymerodraeth yn Moesia a of Dacia oherwydd fod yr Hyniaid yn ymosod arnynt. Ar y cyntaf fe'u derbyniwyd yn heddychlon, ond yn fuan dechreuodd ymladd. Enillodd y Gothiaid nifer o frwydrau lleol, ac yn 378 daeth Valens ei hun i'w gwrthwynebu. Roedd ei nai, Gratian, oedd wedi olynu Valentinianus, ar y ffordd gyda byddin i gynorthwyo, ond mynnodd Valens ymladd cyn iddo gyrraedd. Ym Mrwydr Adrianople ar 9 Awst 378, gorchfygwyd ef gan y Gothiaid a'u cyngheiriaid a'i ladd. Olynwyd ef gan Theodosius I.
Gwnanychwyd yr ymerodareth Rufeinig yn fawr gan ei cholledion ym Mrwydr Adrianople. Canlyniad arall y frwydr a marwolaeth Valens oedd gwanhau Ariadaeth yn yr ymerodraeth; roedd Valens yn Ariad ond roedd ei olynwyr yn dilyn Credo Nicea.
Rhagflaenydd: Jovian |
Ymerawdwr Rhufain 364 – 378 gyda Valentinian I |
Olynydd: Gratianus a Valentinian II |