Vitellius | |
---|---|
Portread o Vitellius ar ddarn arian o gelc Llanfaches (Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru) | |
Ganwyd | 24 Medi 0015, 7 Medi 0015 Nuceria |
Bu farw | 22 Rhagfyr 0069 o summary execution Rhufain |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | gwleidydd, person milwrol |
Swydd | ymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig, Conswl Rhufeinig |
Tad | Lucius Vitellius the Elder |
Mam | Sextilia |
Priod | Petronia, Galeria Fundana |
Plant | Vitellius Petronianus, Vitellia Galeria, Vitellius Germanicus |
Aulus Vitellius (7 neu 24 Medi 12 neu 15 OC – 20 Rhagfyr 69 OC) oedd wythfed Ymerawdwr Rhufain. Roedd y trydydd o bedwar ymerawdwr yn ystod Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr (69 OC).
Perthynai Vitellius i deulu amlwg yn Rhufain, a daeth yn Gonswl yn 48 OC. Yn ystod teyrnasiad Nero penodwyd ef yn Broconswl talaith Affrica, Yn 68 OC penododd yr ymerawdwr Galba ef yn bennaeth y fyddin yn nhalaith Germania Inferior. Cynorthwyodd ei filwyr i orchfygu gwrthryfel gan Julius Vindex, ond yr oedd y milwyr yn teimlo nad oeddynt wedi cael y diolch dyledus gan Galba am wneud hyn. Ar 2 Ionawr 69 cyhoeddwyd Vitellius yn ymerawdwr gan ei lengoedd. Yn fuan wedyn cychwynodd y fyddin am Rufain.
Ym Mrwydr Gyntaf Bedriacum, gorchfygodd byddin Vitellius lengoedd Otho, oedd wedi disodli Galba fel ymerawdwr. Yn dilyn hunanladdiad Otho, aeth Vitellius ymlaen i Rufain fel ymerawdwr. Erbyn hyn yr oedd cystadleuydd arall am yr ymerodraeth. Roedd y llengoedd yn nhlaleithiau Judea a Syria wedi cyhoeddi Titus Flavius Vespasianus yn ymerawdwr, a chychwynodd llengoedd y dwyrain tua Rhufain i geisio ennill yr orsedd i Vespasian. Gorchfygwyd llengoedd Vitellius gan fyddin dan arweiniad Antonius Primus yn Ail Frwydr Bedriacum. Aeth byddin Primus ymlaen i Rufain, lle lladdwyd Vitellius. Daeth Vespasian yn ymerawdwr yn ei le.
Rhagflaenydd: Otho |
Ymerawdwr Rhufain 17 Ebrill – 20 Rhagfyr 69 OC |
Olynydd: Vespasian |