Waunfawr

Waunfawr
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,463 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1133°N 4.2078°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000103 Edit this on Wikidata
Cod OSSH523593 Edit this on Wikidata
Cod postLL55 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruSiân Gwenllian (Plaid Cymru)
AS/au y DUHywel Williams (Plaid Cymru)
Map
Statws treftadaethHenebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion

Pentref a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Waunfawr[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (weithiau Waenfawr). Mynna rhai y ffurf gywirach "Y Waunfawr" (cf. Y Bala). Mae'n bentref sylweddol o faint ar briffordd yr A4085 rhwng Caernarfon a Beddgelert, ar lan Afon Gwyrfai. Mae yno orsaf ar Reilffordd Ucheldir Cymru ym mhen deheuol y pentref.

Waunfawr yw cartref Antur Waunfawr, elusen sy'n darparu gwaith ar gyfer yr anabl trwy gynnal nifer o brosiectau, yn cynnwys safle Bryn Pistyll yn Waunfawr ei hun, sy'n cynnwys gerddi, caffi a siop grefftau.

Waunfawr o gyfeiriad Bryn Mair

Yn 1914 adeiladodd cwmni Marconi orsaf ddarlledu ger y pentref, oedd yn gyrru negeseuon i orsaf dderbyn ger Tywyn. Bu'r adeilad wedyn tan heddiw yn ateb sawl diben ar dro, o glwb nos i ganolfan fynydda.

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 18 Ionawr 2022

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in