Math | tref farchnad |
---|---|
Ardal weinyddol | Wem Urban |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Amwythig (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Yn ffinio gyda | Amwythig |
Cyfesurynnau | 52.8555°N 2.725°W |
Cod OS | SJ514289 |
Cod post | SY4 |
Tref farchnad yn sir seremonïol Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, ydy Wem.[1] Fe'i lleolir ym mhlwyf sifil Wem Urban yn awdurdod unedol Swydd Amwythig. Saif 9 milltir (14 km) i'r gogledd o'r Amwythig ar y rheilffordd rhwng y dref honno a Crewe yn Swydd Gaer.[2]
Mae enw'r dref yn deillio o'r hen Saesneg wamm, sy'n golygu cors, gan fod tir corsiog yn bodoli yn ardal y dref. Dros amser, cafodd hyn ei lygru i ffurfio "Wem". [3] Mae ganddi boblogaeth o oddeutu 5,142.[4]