Wicipedia:Amlygrwydd

Llwybr(au) brys:
WP:AMLYG

Rydym yn derbyn erthyglau am ystod eang o bobl a phethau ar Wicipedia, cyn belled a'u bod yn ateb meini prawf neu ofynion arbennig, sef: a yw'r gwrthrych yn ddigon amlwg ('nodedig'), h.y. a ydyw'r gwrthrych yn haeddu ei le ar y Wicipedia oherwydd ei amlygrwydd. Os y deuir i'r casgliad nad yw'n haeddu ei le gan nad yw'n ateb gofynion y meini prawf hyn, yna dywedir ei fod yma ddiffyg amlygrwydd, ac nid yw, felly'n gymwys. Os bernir nad ydyw'r pwnc/person yn ddigon amlwg, caiff y dudalen ei dileu. Os nad yw'n ateb y gofynion, gellir, o bosib, gyfuno'r gwrthrych o fewn erthygl arall.

Sylwer
1. Rhoddir y nodyn Amlygrwydd ({{amlygrwydd}}) ar frig y dudalen i nodi nad yw'r cynnwys o bosibl yn cwrdd â gofynion amlygrwydd Wicipedia Cymraeg.
2. Mae ein diffiniad ni o genedlaethol, yn wahanol i ddiffiniad y Wicipedia Saesneg. Mae Golwg, Y Cymro, y Western Mail a'r Daily Post yn bapurau Cenedlaethol yng Nghymru, ac yn aml, rydym yn caniatáu gwrthrychau y ceir cyfeiriad atyn nhw yn y papurau hyn, neu wefannau cenedlaethol tebyg, a'u bod felly'n ateb y meini prawf 'Amlygrwydd'.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in