Wicipedia Cymraeg

Wicipedia Cymraeg
Logo'r Wicipedia Cymraeg
Ciplun o hafan y Wicipedia Cymraeg
Ciplun o hafan y Wicipedia Cymraeg ar 29 Hydref 2009, diwrnod ar ôl cyrraedd 25,000 o erthyglau
URL cy.wikipedia.org
Masnachol? Nac ydy
Math o wefan Gwyddoniadur arlein
Cofrestru Dewisol
Ieithoedd ar gael Cymraeg
Perchennog Sefydliad Wicimedia
Lansiwyd ar Gorffennaf 2003

Gwyddoniadur Cymraeg sy'n seiliedig ar Wikipedia yw'r Wicipedia Cymraeg, a lansiwyd yng Ngorffennaf 2003. Erbyn heddiw (Medi 2024), mae ganddi oddeutu 280,998 o erthyglau.

Hon, mae'n debyg, yw'r wefan Gymraeg fwyaf poblogaidd o ran nifer y darllenwyr, gyda chyfartaledd o 840,000 o dudalennau'n cael eu hagor pob mis gan ddarllenwyr unigryw (nid bots).[1][2] Mae'r cyfan o gynnwys Wicipedia a'i chwiorydd (testun, delweddau, ffilm ayb) wedi'u cofrestru ar drwydded CC-BY-SA sy'n drwydded sy'n caniatáu defnydd masnachol ohoni, neu ar drwydded agored debyg ee gall cwmni cyfyngedig ddefnyddio'r cynnwys a'i werthu am elw, ar rai amodau.[3]

Ers 15 Rhagfyr 2016 ceir mwy o erthyglau ar ferched ar y Wicipedia Cymraeg nag o ddynion - yr iaith gyntaf (allan o dros 330) i gyrraedd hynny.[4] Yn ôl arolwg o ddarllenwyr Wicipedia a gyhoeddwyd yn Chwefror 2017 roedd mwy o'r darllenwyr o'r farn fod yr wybodaeth ar yr Wicipedia Cymraeg yn 'gywir ac yn ddibynadwy' na'r ganran fyd-eang a wnaed yn 2011 mewn arolwg o'r Wicipedia Saesneg.[5]

Yng Ngorffennaf 2013, yn dilyn ffurfio Wici Cymru, penodwyd Rheolwr Cymru, swydd lawn amser, wedi'i noddi gan Lywodraeth Cymru a Wicimedia DU, er mwyn hyfforddi golygyddion i wella ac ychwanegu i gynnwys Wicipedia. Yn Ionawr 2014 penodwyd Trefnydd Hyfforddi sgiliau wici, a'r un mis hysbysebodd Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am Gydlynydd Wicipedia yn y cylchgrawn Golwg. Yn Ionawr 2015 penododd Llyfrgell Genedlaethol Cymru Jason Evans yn Wicipediwr Preswyl llawn amser a phenodwyd ef yn Wicimediwr Cenedlaethol y Llyfrgell_Genedlaethol ym Medi 2017.[6][7][8]

Ers Haf 2016 mae Geiriadur Rhywogaethau Llên Natur ('Y Bywiadur') yn tynnu llif o dros 12,000 o ffotograffau o Gomin Wicimedia, drwy Wicidata, ac yn cynnwys dolen i dros 10,000 o erthyglau ar y Wicipedia Cymraeg.[9] Caiff Wicipedia hefyd ei rhestru fel adnodd Cymraeg ar wefannau Llyfrgell Genedlaethol Cymru[10] a'r BBC,[11][12] a chan borwr Mozilla Firefox.[13] Mae S4C yn awgrymu Wicipedia fel adnodd i isdeitlwyr Cymraeg y gellir ei defnyddio "gyda gofal".[14]

  1. (Saesneg) Morris, Carl (31 Gorffennaf 2012). Wales: Imagining the Welsh Language Web. GlobalVoices. Adalwyd ar 16 Medi 2012.
  2. Gwefan Wikistats; adalwyd 25 Mawrth 2013
  3. Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 Unported License Gwefan Comin; adalwyd 12 Mai 2013.
  4. Blog Wikimedia UK adalwyd 3 Hydref 2017.
  5. Arolwg o ddarllenwyr y Wicipedia Cymraeg - Cam bach i Wici Cymru, cam ENFAWR i ddynoliaeth - Blog Wikimedia UK; adalwyd 3 Hydref 2017.
  6. Library of Wales with a birthday gift to Wikipedia Gwefan Wicimedia DU; Archifwyd 2020-11-27 yn y Peiriant Wayback adalwyd 20 Ionawr 2015
  7. Gwefan Llyfrgell Genedlaethol, Cymru; enw'r blog: Wicipediwr i breswylio yn y Llyfrgell Genedlaethol; adalwyd 20 Ionawr 2015
  8. Wicimediwr Cenedlaethol y Llyfrgell Genedlaethol - blog; adalwyd 3 Hydref 2017.
  9. 'Bwletin Llên Natur', Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback Rhif 67, Medi 2013; top tudalen 2
  10.  Catalog e-Adnoddau: Wicipedia. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 4 Medi 2012.
  11.  Gwybodaeth ar-lein a gwefannau rhannu a chydweithio. BBC Cymru. Adalwyd ar 4 Medi 2012.
  12.  C2 – Gwefannau eraill. BBC Radio Cymru (C2). Adalwyd ar 4 Medi 2012.
  13.  Cychwyn Arni. Mozilla Firefox. Adalwyd ar 4 Medi 2012.
  14.  James, Heulwen L. (Chwefror 2008). Canllawiau S4C ar gyfer Isdeitlwyr yng Nghymru. S4C. Adalwyd ar 16 Medi 2012.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy