William S. Burroughs | |
---|---|
Ffugenw | Willy a William Lee |
Ganwyd | 5 Chwefror 1914 St. Louis |
Bu farw | 2 Awst 1997 o trawiad ar y galon Lawrence |
Label recordio | ESP-Disk |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | llenor, bardd, nofelydd, awdur ysgrifau, arlunydd, sgriptiwr, awdur ffuglen wyddonol, rhyddieithwr, ffotograffydd |
Blodeuodd | 1989 |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Junkie, Nova Express, Cities of the Red Night, The Place of Dead Roads, Naked Lunch |
Arddull | gwyddonias, dychan, dystopian literature, hunangofiant |
Prif ddylanwad | Louis-Ferdinand Céline, Jean-Paul Sartre |
Mudiad | Cenhedlaeth y Bitniciaid |
Tad | Mortimer P. Burroughs |
Priod | Joan Vollmer |
Plant | William S. Burroughs Jr. |
Gwobr/au | chevalier des Arts et des Lettres, Commandeur des Arts et des Lettres |
Gwefan | http://realitystudio.org/ |
llofnod | |
Roedd William Seward Burroughs (San Luis, Misuri, Unol Daleithiau, 5 Chwefror 1914 – Kansas, 2 Awst 1997) yn llenor arbrofol ac arloesol, nofelydd, beirniad cymdeithasol ac yn un o brif ffigyrau'r mudiad 'Beat' y 1950au. Parhaodd ei ddylanwad trwy gyfnod gwrth-ddiwylliant y 60au a 70au gan ddod yn arwr i lawer o ysgrifenwyr, beirdd, arlunwyr a cherddorion heddiw.[2]
Mae ei waith yn cynnwys elfen hunan bywgraffiadol cryf, yn adlewyrch ei ymdrechion parhaus i ehangu ymwybyddiaeth ac yn dogfenni ei ddefnydd o (ac weithiau bod yn gaeth i) amrywiaeth eang o gyffuriau. Mae budredd, gwallgofrwydd, hiwmor du, swrealaeth, eironi, parodi a sylwebaeth o 'fywyd isel' yn elfennau amlwg o'i nofelau.
Yn ôl y bywgraffydd Barry Miles thema ganolig gwaith Burroughs yw:
“ Yr angen i gwestiynu pob dim. Hyd yn oed cwestiynu iaith ein hun, am fod iaith yn ymgorffori cyfres benodol o werthoedd y dylid eu harchwilio. Dadansoddwch bob dim sydd yn eich rheoli i weld sut mae'n sefyll - ac efallai fe wnewch chi ddarganfod bod angen i'w newydd. Credodd Burroughs fod yr unig ffordd i newid cymdeithas yw ei herio trwy gambahafio - i dorri'r rheolau - fel arall mae cymdeithas yn aros yn yr unfan.[3] ”